Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!  


Sefydliad Elusennol Trust House 

 Grantiau bychain   

Grantiau blwyddyn sengl  o rhwng £2,000 a £10,000 ar gyfer costau craidd, cyflogau, costau cynnal a chostau prosiect.   

Rhaid bod y prosiectau â’u ffocws ar Gefnogaeth Gymunedol  ac mae’n ardal o amddifadedd lluosog.  

Cymhwystra  

Dylai cod post eich sefydliad fod o fewn y canlynol ar y  Mynegeion Amddifadedd Lluosog 

  • os ydych wedi’ch lleoli mewn ardal drefol, rhaid eich bod ymysg 15% gwaelod o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig 
  • os ydych wedi’ch lleoli mewn ardal wledig rhaid eich bod ymysg y 50% gwaelod o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig.   
  • Mae eich prosiect yn ffocysu ar gefnogaeth gymunedol   
  • Nid yw eich incwm blynyddol dros £250,000 
  • Gallwch sicrhau 50% o holl gostau’r prosiect   
  • Gallwch ddarparu eich cyfrifon blynyddol mwyaf diweddar 
  • Gallwch ddechrau gwario ein grant o fewn 1-2 mis o’i dderbyn 
  • Rydych wedi’ch gwreiddio yn eich cymuned leol. 

 Ar y ddolen isod gallwch wirio’ch cymhwystra.  

Gellir gwneud ceisiadau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

https://www.trusthousecharitablefoundation.org.uk/our-grants/small-grants