15.09.2023 |
Cau Dros Dro neu Gau Brys Lleoliad Gofal Plant neu Chwarae
Rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid yn Cwlwm i ddiweddaru canllawiau, er mwyn helpu lleoliadau i baratoi ar gyfer cau eu lleoliad dros dro neu ei gau ar frys, yn unol â chanllawiau mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru i’r sector ar gynllunio mewn argyfwng.
Gall amgylchiadau na chafodd eu rhagweld godi o e.e. tywydd eithafol, lledaeniad haint, colli cyfleustodau neu weithgaredd troseddol. Bydd y canllawiu’n gymorth ichi gynllunio ar gyfer y camau a fydd yn ofynnol, yn ystod, neu’n syth ar ôl argyfwng neu ddigwyddiad sy’n bygwth eich busnes arferol, ac yn dod â’r holl wybodaeth at ei gilydd mewn un lle.