22.09.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Y Foyle Foundation
Gall elusennau ymgeisio am rhwng £2,000 a £10,000. Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r Ymddiriedolwyr ddyfarnu llai na’r swm a geisiwyd.
Eu ffocws nhw fydd rhoi grantiau a blwyddyn yn unig, i ateb costau craidd, prosiectau, cyfarpar hanfodol neu brosiectau adeiladu.
Eu blaenoriaeth fydd cefnogi elusennau lleol sy’n dal ar waith yn eu cymunedau, ac ar hyn o bryd yn cyflenwi gwasanaethau ar gyfer yr ifanc, yr hyglwyf, pobl hŷn, pobl dan anfantais neu’r gymuned yn gyffredinol.
Nid yw’r Foyle Foundation yn ariannu gweithgareddau crefyddol na gweithgareddau sy’n hyrwyddo crefydd.
Rhaid i elusennu ddangos y byddant yn ariannol hyfyw dros y 12 mis nesaf.
Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg.