14.06.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i wneud cais am Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol
Ydych chi’n Sefydliad Gwirfoddol neu Gymunedol? Neu un o’r strwythurau llywodraethu canlynol,
- Elusen gofrestredig
- Grŵp neu glwb cyfansoddiadol
- Cwmni buddiant cymunedol (CIC)
- Menter gymdeithasol
- Ysgol
- Corff statudol
Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant lleol os hoffech gael cymorth gydag unrhyw geisiadau am arian – rydym yma i helpu