Cofrestrwch ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) gyda chefnogaeth ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant

A ydych yn ddarparwr gofal plant anghofrestredig sydd am gymryd y cam nesaf hwnnw a chael eich cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)?

Mae ein tîm ymroddedig o Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant wrth law i’ch cefnogi chi a’ch tîm, neu bwyllgor.  Wedi’i ariannu trwy Gymunedau Gofal Plant Cysylltiedig y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect yn ein galluogi i’ch cefnogi gyda’ch cais i sicrhau eich bod gennych

  • Bolisïau a Gweithdrefnau yn eu lle sydd wedi eu gwreiddio ac yn adlewyrchu arferion eich clwb.
  • Systemau llywodraethu ac ariannol cryfach sy’n eich cefnogi i gyflawni a chynllunio ar gyfer cynaliadwyedd tymor hir eich clwb.
  • Cefnogaeth i ddeall a gweithredu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant yng Nghymru. Cynnal a gwneud gwelliannau ansawdd ar gyfer y teuluoedd rydych yn darparu eich gwasanaeth ar eu cyfer.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ag AGC, byddwch yn gallu

  • Cofrestru â CThEM ar gyfer y Gofal Plant Di-dreth a chynlluniau eraill.
  • Cefnogi teuluoedd plant 3-4 oed trwy ddefnyddio Cynnig Gofal Plant Cymru.

Mae’r rhain yn galluogi rhieni i gael mynediad at gymorth Ariannol y Llywodraeth sy’n galluogi gofal plant i ddod yn fwy fforddiadwy i deuluoedd sy’n gweithio.  Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant heddiw i ddarganfod mwy am sut y gallwn eich  helpu.