Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help! 


Cynllun Costau Craidd Plant mewn Angen 

Mae Plant mewn Angen yn cynnig grantiau o hyd at £120,000 i elusennau a sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 mlwydd oed a thanodd yn y DU. Pwrpas y grantiau yw cefnogi’r costau craidd y mae angen eu talu i gynnal sefydliadau.  

Cliciwch yma am wybodaeth bellach. 


Sefydliad Morrisons   

Mae Sefydliad Morrisons yn dyfarnu ariannu â grantiau i brosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth i gymumnedau lleol. Fel arfer mae grantiau ar gael i ariannu prosiectau’n llawn, hyd at £25,000.  

Cliciwch yma am wybodaeth bellach. 


Cronfa Chwarae Cymunedol y DU  

Mae Cronfa Chwarae Cymunedol y DU’n hollbwysig o ran llesiant a datblygiad sgiliau plant, a gallwn oll chwarae rôl yn meithrin cymunedau mwy chwareus. Wedi ei gefnogi gan Sefydliad LEGO, mae’r Sialens £145,000 hon wedi ei dynodi ar gyfer eich helpu i greu profiadau mwy chwareus i blant yn eich cymunedau, eich ysgolion neu’ch cymunedau ar draws y DU. 

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.