09.12.2022 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Cronfa Cymunedau Arfordirol Llywodraeth Cymru
Mae’r uchod yn ceisio cefnogi datblygiad economaidd cymunedau arfordirol drwy hyrwyddo tyfiant economaidd a chread swyddi, fel bod pobl yn gallu ymateb yn well i anghenion a chyfleoedd economaidd newidiol yn yr ardal.
Am fwy o wybodaeth ebostiwch
ccfwales@tnlcommunityfund.org.uk
Cliciwch yma am wiriad cymhwysedd.
Gwobrwyon Weston Charity 2023
Mae’r Garfield Weston Foundation a’i bartner, Pilotlight, yn cynnig gwobrwyon gwerth dros £22,000 i hyd at 22 o elusennau yng Ngogledd Lloegr, Canolbarth Lloegr a Chymru.
Dyddiad cau Ionawr 6ed 2023
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.
Cronfa Sir Gaerfyrddin
Gall grwpiau cymunedol lleo9l, elusennau a phrosiectau wneud cais am grantiau o rhwng £500 a £2,000.
Pwy all ymgeisio?
Elusennau, grwpiau a sefydliadau nid-er-elw sy’n rhedeg prosiectau a gweithgareddau yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau er lles eu cymuned leol (e.e. clybiau ôl-ysgol, grwpiau ffermwyr ifanc, clybiau cinio, caffis cof, gwasanaethau cyfeillachu a.y.b.)
Dyddiad cau Ionawr 30ain 2023.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.