Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Dydd Llun, Rhagfyr 12fed 2022 Diwrnod Addurno Tŷ Sinsir

Yn wreiddiol o UDA, mae Diwrnod Addurno Tŷ Sinsir yn gyfle i wneud ac i addurno Tŷ Sinsir. Gallwch fod mor greadigol ag y dymunwch a chreu Tŷ Sinsir cwbl ryfeddol, neu efallai, yn symlach, dyn neu ddyn eira sinsir. Gweithgaredd hwyliog i’w wneud gartref neu yn y clwb, a gallech hyd yn oed ei droi’n gystadleuaeth!


Dydd Sul Rhagfyr 18fed 2022 Dechrau Hanukkah

Yn wyliau Iddewig a adnabyddir hefyd fel Gŵyl y  Goleuadau, mae Hanukkah (neu Chanukah yn yr Hebraeg), yn ŵyl Iddewig with-niwrnod draddodiadol, sy’n digwydd ym mis Tachwedd neu Ragfyr bob blwyddyn. Ar bob noson o Hanukkah, goleuir yr Hanukkiah, (canhwyllbren naw-cangen) mewn trefn arbennig, a gellir ei weld yn aml mewn ffenestri tai. Mae Hanukkah yn draddodiad sydd wedi para dros 2,000 o flynyddoedd ac sy’n dathlu gwyrth yr olew. Dyma pan grëwyd difrod i’r Deml Sanctaidd yn Jerwsalem a dim ond digon o olew ar ôl i oleuo’r menorah am un noson, ond, fel petai drwy wyrth, llosgodd y canhwyllau am with niwrnod.  Mae gan  BBC Bitesize wybodaeth hawdd i’w darllen am Hanukkah a’i thraddodiadau.


Dydd Sul, Rhagfyr 18fed 2022, Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr

Nod Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr yw codi ymwybyddiaeth o’r heriau a’r anawsterau sydd ynghylch mudo rhyngwladol. Yn ôl y Cenhedloedd  Unedig amcangyfrifir bod 281 miliwn o bobl a mudwyr rhyngwladol yn byw mewn gwlad sy’n wahanol i’w gwlad enedigol. Yn 2021 cafodd 59.1 o bobl eu dadleoli, 53.2 miliwn o ganlyniad i wrthdaro a thrais, a 5.9 miliwn o ganlyniad i drychinebau. Mae gan Young Citizens adnoddau i helpu plant a phobl ifanc ddeall yn well yr heriau hyn.