Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Mae Cyllido Cymru yn blatfform chwilio cyllid newydd ar gyfer y sector gwirfoddol e.e. grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol ac elusennau, mae’n beiriant chwilio rhad ac am ddim, sydd wedi’i greu gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru sy’n rhwydwaith o gynghorau gwirfoddol lleol, mae Cyllido Cymru yn cael ei reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Gallwch chwilio am gannoedd o gyfleoedd am gyllid, o grantiau bach i brosiectau cyfalaf llawer mwy.

I ddechrau, bydd angen i chi gofrestru ar wefan Cyllido Cymru.