Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 2ail 2023 – Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Caethwasiaeth

Yn ôl y sefydliad llafur rhyngwladol, (International Labour Organisation) mae dros 40 miliwn o bobl ar hyd a lled y byd yn destun caethwasiaeth fodern, ac at hynny, 150 miliwn o blant  yn destunau llafur plant. Mae Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Caethwasiaeth yn canolbwyntio at ddileu ffurfiau cyfoes caethwasiaeth megis masnachu pobl, cam-elwa rhywiol, y ffurfiau gwaethaf o lafur plant yn ogystal â phriodasau gorfodol a recriwtio plant mewn gwrthdrawiadau arfog. Am fwy o wybodaeth gweler


Dydd Sul Rhagfyr y 3ydd 2023 – Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau

Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl yn cydnabod anableddau gweladwy ac anweledig, i hyrwyddo pwysigrwydd cynhwysiant mewn bywyd ac yn y gweithle. Yn ddigwyddiad blynyddol, cynhelir Diwrnod Anabledd y Byd gan y Cenhedloedd Unedig ac mae’n annog arweinwyr busnes ledled y byd i werthfawrogi cyfraniadau unigryw pobl anabl. Mwy o wybodaeth yma


Rhagfyr 4 2023 – Diwrnod Gwisgo Coed

Seilir y gweithgaredd, gwisgo coed, ar sawl hen arferion o sawl rhan o’r byd. Mae Diwrnod Gwisgo Coed yn digwydd ar y penwythnos cyntaf ym mis Rhagfyr ac fe’i cychwynnwyd gan Common Ground yn 1990.  Yn draddodiadol dathlwyd coed am eu harwyddocâd ysbrydol, ac mae’n gyfle i ddathlu arferion lleol a gwerthfawrogi natur a choed. Mae’n gyfle i ailgysylltu â thraddodiadau hynafol megis yr arfer Celtaidd o glymu at goeden ddarn o ddefnydd mewn dŵr o ffynnon sanctaidd. Gallwch hefyd fod yn rhan o hyn drwy addurno coeden Nadolig.