01.12.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Yr Ymddiriedolaeth Deganau – Toy Trust
Mae Toy Trust yn rhoi grantiau o hyd at £5,000 i elusennau bychain yn y DU sy’n cefnogi plant o dan anfantais sy’n iau na 13 blwydd oed.
Am wybodaeth bellach cliciwch yma.
Ymddiriedolaeth Lady Allen of Hurtwoood
Mae Ymddiriedolaeth Lady Allen yn cynnig grantiau o tua £1,000 i brosiectau sy’n annog a hyrwyddo lles ac addysg plant ifanc a’u teuluoedd.
Am wybodaeth bellach cliciwch yma.