05.12.2023 |
Dathliadau Rhagfyr ar hyd a lled y byd!
Beth yw ystyr ‘Boxing Day’?
Sef y diwrnod wedi Dydd Nadolig, ar Ragfyr 26ain. Yn draddodiadol, roedd ‘Boxing Day’, sef Dydd San Steffan, yn ddiwrnod pan fyddai cyflogwyr yn dosbarthu rhoddion a bwyd I’w gweithwyr. Y dyddiau yma digwyddiadau chwaraeon ac arwerthiannau ôl-Nadolig sy’n digwydd ar Ddydd San Steffan.
Beth yw Diwrnod Bodhi?
Mae’n cael ei ddathlu gan Fwdhyddion ar hyd a lled y byd ar Ragfyr 8fed.
Darllenwch yma am fwy o wybodaeth …What is Beth yw Diwrnod Bodhi D? 08/12/2023 – Calendr Digwyddiadau Twinkl
Beth yw Krampusnacht ?
Yn draddodiad gannoedd o flynyddoedd oed yn yr Almaen a rhannau eraill o Ewrop, dywedir mai dyma’r amser y bydd y Karampus, ffigur diafolaidd fel anghenfil, a’r gwrthwyneb i San Niclas siriol, yn cyrraedd mewn trefi i wobrwyo plant da a chymryd y rhai drwg i’r byd tanddaearol. Mae’n debygi i’r rhestr Drwg a Da, ond gryn dipyn yn dywyllach..
Fe’i dathlir ar Ragfyr 5ed.
Beth yw Omisoka?
Dathlir hyn ar gan Japaneaid ar Ragfyr 31ain. Maent yn cynnal gwledd anferth gyda ffrindiau a theulu a bwydydd traddodiadol Japaneaidd. Yn aml bydd pobl yn mynd allan i ddathlu neu aros adre a gwylio cystadleuaeth dalentau genedlaethol nes ei bod yn bryd cyfri i lawr at hanner nos. Ond nid er mwyn cael parti yn unig y dathlir Omisoka, fe’i hystyrir yn ogystal yn ddigwyddiad ysbrydol gan lawer o bobl Japaneaidd, ac ar hanner nos byddant yn ymweld â chysegrfannau Shinto.