Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Cronfa Chwarae Gymunedol ChangeX y DU 

Mae llwyfan ymgysylltu cymunedol ChangeX, a gefnogir gan Sefydliad LEGO, wedi lansio cronfa o £145,000 i alluogi cymunedau ledled y DU i ddechrau prosiectau dysgu-trwy-chwarae profedig.

Nod Cronfa Chwarae Cymunedol y DU yw cefnogi unigolion, grwpiau lleol neu sefydliadau cymunedol ledled y DU i ddechrau prosiectau newydd yn eu cymunedau. Gall grwpiau ddewis o bortffolio o 15 o syniadau chwarae profedig.

Cliciwch  yma am ragor o wybodaeth.


Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs:  Grant Cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (£1000)  

Mae ariannu ar gyfer y cynllun grantiau uchod yn awr ar gael gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs drwy ariannu gan Lywodraeth Cymru o Ebrill 2023 hyd at Fawrth  2024.

Bydd y grant yma’n cefnogi lleoliadau Cymraeg / dwyieithog gyda’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno cais am gofrestru ag AGC ac ennill cofrestriad; bydd hefyd yn cefnogi ehangu darpariaeth bresennol cylchoedd  i gynnig gofal plant allysgol i blant hyd at 12 mlwydd oed.  

Gofynnwn ichi drafod eich cais gyda’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant os gwelwch yn dda.