Cyfleoedd Ariannu 17/10/2022

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!

 

Cwmni ‘The Leathersellers’

Bydd Rhaglen Grantiau Bychain ‘Leathersellers’ 2022-23 yn ystyried ceisiadau gan elusennau sydd wedi eu cofrestru yn y DU ac sydd ar waith yma (yn cynnwys Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIOs), ond nid Cwmnïau Budd Cymunedol (CICs) sy’n gweithredu.

Mae grantiau o hyd at £5,000 i’w cael.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.

 

Cwmni Ironmongers Company

Mae’r cwmni, Ironmongers’ Company, yn dymuno cefnogi prosiectau sy’n rhoi cyfleoedd i blant o dan anfantais a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach

 

Mae Magic Little Grants 2022 yn dal yn weithredol a bydd yn derbyn ceisiadau hyd at y dyddiad cau ar Hydref 31ain 2022.

Gall sefydliadau nid er elw sydd â throsiant blynyddol o lai na £250,000 ar draws Cymru yn awr ymgeisio am grant o £500.

I wybod mwy cliciwch yma.