20.01.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
__________________________
Cyllid Sefydliad Lloyds Cymru a Lloegr
Gall elusennau arbenigol lleol sydd ag incwm o £25,000 i £500,000 wneud cais am grant anghyfyngedig o £75,000 dros dair blynedd. Ochr yn ochr â’r cyllid bydd yr elusennau yn cael cefnogaeth meithrin gallu ychwanegol ac adnoddau i’w helpu i ffynnu y tu hwnt i oes eu grant. Gallwch gael gwybod mwy a dechrau eich cais ar eu gwefan. Bydd y ceisiadau yn parhau ar agor tan 5pm ar 3ydd Mawrth 2023.
______________________________________
Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn ailagor
Mae Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principallity yn gronfa Gymru-gyfan a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality â’r nod o gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas a bywydau pobl ifanc yng Nghymru.
I ddarllen mwy am y gronfa, y meini prawf a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y gronfa yma. y terfyn amser i wneud cais am gael eich ariannu yw Chwefror 8fed 2023
____________________________
Cronfeydd Gogledd Cymru
A ydych chi’n sefydliad sy’n gweithredu o Sir Ddinbych, Sir Fflint neu Sir Wrecsam neu’n cefnogi pobl sy’n byw yno? Neu a ydych yn unigolyn sy’n byw yn yr ardaloedd awdurdod lleol hyn ac yn awyddus i gael bwrsariaeth addysgol? Os felly, edrychwch ar y cronfeydd canlynol i weld a ydych yn gymwys i wneud cais –
–Cronfeydd Sir y Fflint
–Cronfeydd Wrecsam
–Cronfa Gwaddol Gymunedol Sir Ddinbych
–Cronfa Addysg Dinbych a’r Cylch
Gofynnir i chi gyflwyno’ch cais erbyn Mawrth 3ydd 2023.