Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Sefydliad Blue Spark

Mae’r uchod yn cefnogi addysg a datblygiad plant a phobl ifanc trwy ddarparu grantiau ar gyfer prosiectau addysgol, diwylliannol, chwaraeon a phrosiectau eraill.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post 

Cronfa i gefnogi sefydliadau bychain ac achosion da yng Nghymru yw Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post. Mae grantiau o £500 i £20,000 i’w cael.

Gall sefydliadau ymgeisio am ariannu ar gyfer prosiectau neu gostau rhedeg hanfodol, megis cyfleustodau a rhent.

Bydd y rownd gyntaf yn agor ar Chwefror 28ain am 9yb hyd at Fawrth 1af.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.