Cwlwm blog: Starting your anti-racist learning

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol o ddileu hiliaeth yng Nghymru erbyn 2030. Y gobaith yw y bydd y plant ifanc yn byw mewn cymdeithas lle na fydd lliw croen yn effeithio ar y ffordd y cânt eu trin neu eu barnu, ac na fyddant yn profi hiliaeth. Os gwireddir hyn, mae gofyn i bob un ohonom wneud newidiadau – pwy bynnag ydym a beth bynnag a wnawn – i ddadwreiddio hiliaeth o’n bywydau a’n cymunedau. Mae hyn yn arbennig o wir am leoliadau gofal plant a blynyddoedd cynnar, lle mae gennym gyfle i gydnabod a gwyrdroi stereoteipio hiliol y bydd plant yn ei efelychu oddi wrthym ni, eu teuluoedd, y gymuned a’r cyfryngau.

Edrych  yn y  drych: dechrau eich taith  ddysgu gwrth-hiliol | cwlwm