12.04.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Beth am fanteisio ar y nosweithiau goleuach a’r diwrnodau cynhesach a chynllunio rhai digwyddiadau gyda’r plant:
- Gwersylla gyda thân gwersyll
- Trosgwsg
- Noson llawn hwyl, gemau aheriau
- Gwerthu crefft y mae’r plant wedi’i wneud
- Raffl, rhowch docynnau i’r plant fynd adref gyda nhw i’w gwerthu
Gwnewch gysylltiadau gyda’ch Swyddogion Ymgysylltu Cymunedol lleol yn eich archfarchnadoedd lleol a gweld sut y gallent eich cefnogi gydag adnoddau neu godi arian, gallech hyd yn oed drefnu gweithgaredd pacio- bag.