12.04.2024 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Diwrnod y Ddaear Dydd Llun 22 Ebrill 2024
Mae Diwrnod y Ddaear yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cadwraeth amgylcheddol a chynaliadwyedd, gan ein hannog i ddod at ein gilydd a gweithredu dros blaned iachach a dyfodol mwy disglair.
Diwrnod Llais y Byd
Dydd Mawrth Ebrill 16eg 2024. Digwyddiad blynyddol byd-eang sy’n ymroddedig i ddathlu ‘llais’ a gwerth enfawr y llais yn ein bywydau bob dydd. Y nod yw annog pobl i ddefnyddio eu llais… sut bydd y plant yn eich lleoliad yn cael eu hannog i ddefnyddio’u llais nhw?
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Parkinson’s Ebrill 14eg – 20fed yn dilyn ymlaen o Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Parkinson’s ar Ebrill 11eg. Cyfle blynyddol i godi ymwybyddiaeth ac arian i gefnogi pobl sy’n byw gyda’r cyflwr ac i sicrhau bod pobl yn byw’n well yn hirach.