Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Magic Little Grants

Mae’r ceisiadau bellach ar agor ac yn para ar agor tan Hydref 31ain 2023. 

Gyda phroses ymgeisio 20-munud syml ar gyfer grant o £500 a chanlyniad o fewn chwe wythnos, mae’r gronfa Magic Little Grants yn lleihau’r gwaith sydd ei angen ar sefydliadau llawr gwlad i gael mynediad at yr arian sydd ei angen arnynt i lansio neu gryfhau eu gwasanaethau.

Mae’r meini prawf canlynol yn berthnasol:

  • Rhaid i sefydliadau naill ai fod yn eu blwyddyn gyntaf o weithredu neu fod ag incwm blynyddol o lai na £250,000.
  • Gellir defnyddio’r cyllid i lansio prosiectau newydd, cefnogi rhai sy’n bodoli eisoes, neu dalu costau craidd sy’n gysylltiedig â gwaith parhaus. Rhaid i sefydliadau a’r prosiectau y maent yn gwneud cais amdanynt fod wedi’u lleoli yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.
  • Nodwch fod ysgolion yn gymwys i wneud cais os ydynt yn elusen gofrestredig. Nid yw grwpiau yng Ngogledd Iwerddon yn gymwys i wneud cais am y cyllid hwn.
  • Dim ond unwaith yn 2023 y gall grwpiau ymgeisio am grant.

Localgiving | Magic Little Grants


Rhaglen Awyr Fawr

Mae BBC Plant Mewn Angen yma i sicrhau bod pob plentyn yn cael y plentyndod y mae’n ei haeddu a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu.

Mae’r gronfa, A Million & Me, yn cefnogi plant 8-13 oed. Mae’n canolbwyntio ar eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl.

Nod y gronfa hon yw darparu cymorth yn gynnar, cyn i  broblemau iechyd meddwl ymsefydlu.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar effaith ynysu daearyddol ar les emosiynol ac iechyd meddwl plant.

Bydd y rhaglen yn dyfarnu grantiau o hyd at £5,000 i ariannu:

  • Plant a phobl ifanc 8-13 oed
  • Plant a phobl ifanc o ardaloedd anghysbell
  • Gweithio i gefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen mwy ac i weld a allech fod yn gymwys! Rhaglen Awyr Fawr – BBC Plant mewn Angen