Diwalu – i Ddechrau Tachwedd 12fed

Mae Diwali yn golygu ‘rhes o oleuadau’ ac mae’n ŵyl oleuadau pum niwrnod, sy’n cael ei dathlu gan fwy na 800 miliwn o Hindŵiaid, Sikhiaid a Jainiaid ledled y byd. Yn y Deyrnas Unedig, mae dinas Caerlŷr yn cynnal y dathliad Diwali mwyaf y tu allan i India.

Mae’r ŵyl yn dathlu dechreuadau newydd,buddugoliaeth daioni dros ddrygioni a goleuni dros dywyllwch. Gall y goleuadau a welwch yn Diwali fod o unrhyw fath – diyas, goleuadau te, goleuadau tylwyth teg, canhwyllau a llusernau addurniadol. Mae’r rhan fwyaf o gartrefi fel arfer yn defnyddio cymysgedd o bob math, a gallwch  greu rhai cyfuniadau hyfryd gyda nhw! Mae pobl hefyd yn dathlu Diwali gyda thân gwyllt, anrhegion a bwyd.


Activities

I wybod mwy: Diwali – CBeebies – BBC; Dipal’s Diwali | Twinkl Originals – Diwali for Kids! – YouTube

 

Gwnewch does halen a lampau Diva.

Gosodwch y lampau o gwmpas y cartref ac mewn gerddi i wahodd i mewn Dduwies Cyfoeth, Lakshmi.

Beth fydd eu hangen arnoch:

  • 2 gwpanaid o flawd
  • 1 cwpanaid o halen
  • 1 cwpanaid o ddŵr
  • bwydliw (dewisol)
  • powlen gymysgu fawr
  • paent
  • llewych-eco a secwinau
  • canhwyllau golau te

Beth ddylech ei wneud:

  1. Cymysgwch y blawd a’r halen gyda’i gilydd yn y bowlen gymysgu.
  2. Ychwanegwch 5-10 diferyn o fwydliw i 1 cwpan o ddŵr.
  3. Trowch y dŵr i’r cymysgedd blawd yn y bowlen fawr.
  4. Tylinwch y toes gyda’i gilydd – dylai fod yn feddal ac yn hyblyg.
  5. Rhowch lwmp o does halen i bob plentyn – tua maint ei gledr
  6. Mowldiwch ef a’i rolio’n bêl.
  7. Pwyswch i ganol y bêl gyda’ch bawd i wneud pant sy’n ddigon mawr i ddal cannwyll fach o olau te.
  8. Gadewch y toes i aer-sychu neu sychu mewn popty wedi’i osod ar dymheredd isel (120˚C-150˚C). Bydd yr amser y mae’r toes yn ei gymryd i sychu yn dibynnu ar faint a thrwch eich creadigaethau.
  9. Unwaith y byddant yn sych, peintiwch y lampau diva mewn lliwiau llachar ac ysgeintiwch gliter a secwinau arnynt i gael pefrio ychwanegol pan fydd y paent yn dal yn wlyb.
  10. Pan fydd yr addurniadau’n sych, rhowch gannwyll golau te bach y tu mewn.

Awgrymiadau: Dylai oedolion oruchwylio cynnau’r canhwyllau neu gellid defnyddio goleuadau te a weithredir gan fatri fel dewis arall.

Creu Wal Golau Tylwyth Teg.

Creu Wal Golau Tylwyth Teg. Goleuadau fflachio yw prif thema dathliadau Diwali. Defnyddiwch oleuadau tylwyth teg a lluniau cofiadwy gyda’ch anwyliaid i wneud addurniadau wal.

Rhowch gynnig ar Henna/Mendhi Art, traddodiad celf corff lle mae patrymau cywrain yn cael eu tynnu ar y dwylo a’r breichiau. Mae’n rhan o ddathliad Diwali, ond dywedir hefyd ei fod yn swyn lwc dda cyffredinol – mae priodasau Indiaidd yn cynnal seremoni y noson cyn y briodas i ddymuno iechyd da a ffyniant i’r briodferch. Mae Henna, a adwaenir amlaf fel  Mehndi, yn un o’r ffurfiau mwyaf naturiol o liwiau gwallt. Mae’n blanhigyn sy’n tyfu mewn hinsoddau poeth, sych. Mae ei ddail yn cael eu sychu a’u malu’n bowdr mân sy’n cael ei wneud yn bast ac sy’n cael ei ddefnyddio i liwio gwallt, croen ac ewinedd.

Awgrymiadau da: Gallwch ddefnyddio beiros golchadwy neu dynnu amlinelliad o’ch llaw a dylunio eich gwaith celf ar bapur.

 

 

Patrymau Rangoli

Yn ystod Diwali, mae pobl yn annog duwies cyfoeth Lakshmi i fynd i mewn i’w cartrefi trwy dynnu patrymau llachar ar y llawr ger mynedfa tŷ. Yn draddodiadol, maen nhw’n cael eu creu gan ddefnyddio grawn sialc, tywod neu reis. Rhowch gynnig ar Gelf Tywod wedi’i Ysbrydoli gan Rangoli.

Beth fydd ei angen arnoch chi:

  • sgwpiau
  • tywod lliw

Beth ddylech ei wneud:

  1. Archwiliwch rai patrymau Rangoli.
  2. Teimlwcvh yn rhydd i lunio’ch creadigaethau eich hunain.

Awgrymiadau ardderchog: defnyddiwch lud a phapur du i greu eich celf tywod os na allwch adael eich patrymau wrth eich mynediad neu ddefnyddio dail sydd wedi cwympo a phethau eraill y dowch o hyd iddynt  yn ym myd natur i greu celf natur wedi’i hysbrydoli gan Rangoli.

Mango Lassi  (digon i 2 wydr llawn)

Mae arogleuon, blasau a golygfeydd Diwali yn hwyl i’w harchwilio. Dewch o hyd i rai ryseitiau Diwali ar gyfer Chapattis, reis sbeislyd, cyri cyw iâr, sgwariau cnau coco neu Mango Lassi. Diod hynafol, y credir bod ganddi briodweddau iachâd, sy’n tawelu’r stumog a’r meddwl. Fel arfer byddai lassis yn cael ei fwynhau ar ôl pryd o fwyd er mwyn helpu gyda threuliad.

Beth sydd ei angen arnoch chi:

  • 1 cwpanaid o fango tun, mango ffres aeddfed neu wedi’i rewi
  • 1/2 cwpanaid o laeth
  • 4 llwy de o fêl, fwy neu lai i flasu
  • Cardamom mâl, Dash (dewisol)
  • Iâ, yn ddewisol ar gyfer diwrnod poeth/ysgytlaeth gyson

Beth ddylech ei wneud:

  1. Rhowch y mango, iogwrt, llaeth, mêl a chardamom mewn cymysgydd a chymysgu am 2 funud. Gweinwch gyda thaenelliad o cardamom.

Cyngor da: goruchwylio ciwbio’r mango a defnyddio cymysgydd.