Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!  


Pryd fydd Cronfa Gymunedol Arnold Clark yn ailagor?

Bwriadwn ailagor ein Cronfa Gymunedol yn gynnar  yn 2024 ac rydym yn anelu at gefnogi rhychwant eang o grwpiau elusennol a chymunedol.

Yn ddibynnol ar y math o ariannu y byddwch yn gwneud cais amdano, gall ymgeiswyr llwyddiannus gael swm o hyd at £2,500 yn seiliedig ar gynnwys eu cais. Er mwyn helpu cynnifer o sefydliadau â phosibl yn ein cymunedau lleol, penderfynir ar symiau’r ariannu gan Gronfa Gymunedol Arnold Clark.

Cronfa Gymunedol Arnold Clark  |Arnold Clark