Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn newid

Rydym wrth ein boddau i rannu bod ein rhaglen ariannu flaenllaw, Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, yn newid i gefnogi prosiectau cymunedol ar lawr gwlad ledled y DU yn well.

O ganol dydd heddiw, byddwch chi’n gallu:

  • Ymgeisio am gyllid rhwng £300 ac £20,000 i gefnogi eich prosiect, cynnydd o’r uchafswm o £10,000 yn flaenorol
  • Cael eich ariannu am gyfnod o ddwy flynedd yn hytrach nag un flwyddyn.

Rydym wedi dyblu faint o arian y gallwch ymgeisio amdano ac am ba mor hir y byddwn yn ariannu eich prosiect.

Mae’r newidiadau hyn i Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cyflawni addewid ein strategaeth newydd, Cymuned yw’r man cychwyn, a lansiwyd ym mis Mehefin eleni. Mae hyn yn nodi’r gwahaniaeth mwyaf i gyllid y Loteri Genedlaethol am genhedlaeth.

I weld sut mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau, gwyliwch ein fideo yma.

Eisiau dysgu rhagor?

Ewch i Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth, ac i ymgeisio.