13.01.2023 |
CYNNIG CYFYNGEDIG: Prentisiaethau ar Lefelau 2-5, wedi eu hariannu’n llawn, yn awr ar gael!
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyhoeddi ein bod wedi sicrhau arian i gynnig prentisiaethau a fydd wedi eu hariannu’n llawn (lefelau 2-5).
Os hoffech chi, eich cydweithwyr neu’ch staff ymuno â’r cwrs uchod, mae modd i ni gynnig nifer cyfyngedig o leoedd i chi ymrestru ar ein cyrsiau. Archebwch le yn awr i wneud yn siŵr o’ch lle!
Cynnwys y Cwrs fydd y canlynol:
- Sesiynau wythnosol ar-lein (* i Lefelau 2 a 3)
- Hybiau Rhwydweithio a Hyfforddi (*i’r rhai ar Lefel 5)
- Cefnogaeth fisol gan Swyddog Hyfforddi deinamig a phroffesiynol
- Dewis eang o adnoddau i’ch cefnogi drwy gydol eich cymhwyster.
Gofynnwn ichi roi gwybod inni eich anghenion o ran iaith, gan y gallwn gynnig y cymhwyster yma yn Saesneg neu Gymraeg.
Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r cyfle cyffrous hwn â chi. Cyflwynwch eich Ffurflen Mynegi Diddordeb yn awr, a rhannwch y newyddion â’ch holl rwydweithiau chi!