Rheoli anawsterau ariannol yn eich elusen sy’n codi o bwysau costau byw

Mae’r Comisiwn Elusennau’n cydnabod bod nifer o elusennau yn awr yn wynebu amgylchiadau anodd o ganlyniad i gostau sy’n cynyddu’n gyflym. Gallai hyn gynnwys eu llif arian eu hunain, ond hefyd bryder ynghylch y sawl y maent yn eu gwasnaethu a’u staff eu hunain sy’n wynebu pwysau costau byw. Mae rhai elusennau hefyd, yn arbennig elusennau sy’n darparu gwasnaethau i bobl mewn angen, yn profi mwy o alw.  Gall rhoddwyr hefyd fod yn teimlo cyfyngiadau ariannol, sy’n arwain at lai o incwm yn achos rhai elusennau.

Gall yr heriau ariannol hyn gael effaith fawr ar elusennau a’r rhai sy’n ddibynnol arnynt. Mae’r arweiniad hwn ar gyfer ymddiriedolwyr, yn enwedig ymddiriedolwyr elusennau llai, a all fod arnynt angen help pan fyddant y wynebu penderfyniadau anodd ynghylch cyflwr ariannol eu helusen. NId yw’n mynd i’r afael â materion ehangach megis caledi ymysg staff, y gall aelodau’r elusen fod yn eu hwynebu, ond mae arweiniad ar gael i ymddiriedolwyr gan sefydliadau eraill er mwyn eu cefnogi gyda hyn.

Darllenwch fwy yma