Diweddariad Yswiriant Gwladol

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gostyngiadau i’r cyfraddau Yswiriant Gwladol a chanslo’r Ardreth Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel treth ar wahân.

Y newidiadau allweddol yw:

  • Bydd cyfraddau’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) yn cael eu cwtogi yn ôl 1.25 pwynt canran i bob cyflogai, cyflogwr a’r hunan-gyflogedig, gan wyrdroi, o ran effaith, y codiad a gyflwynwyd yn Ebrill 2022 am weddill y flwyddyn dreth. Bydd y cwtogiad hwn yn dod i rym o 6‌‌‌‌‌‌ ‌‌Tachwedd 2022 a bydd yn cwmpasu YG Dosbarth 1 (y cyflogai a’r cyflogwr) Dosbarth1A , Dosbarth 1B a Dosbarth 4 (yr hunan-gyflogedig).
  • Hefyd fydd y bwriad i gyflwyno’r Ardreth Iechyd a Gofal Cymdeithasol  o 1.25% a glustnodwyd o Ebrill 2023 yn mynd yn ei flaen.

Yn flaenorol, gofynnodd CThEM I gyflogwyr gynnwys neges generig ar slipiau tal ar y flwyddyn dreth (2022 i 2023) i esbonio’r rheswm dros y codiad i’r YG. Ni fydd y neges hon yn gymwys o Dachwedd 6 2022 a dylid ei thynnu oddi ar slipiau tâl o’r dyddiad  hwn ymlaen.

Os ydych yn defnyddio dulliau TWE Sylfaenol CThEM bydd y feddalwedd hon yn cael ei diweddaru’n awtomatig i gydfynd a’r newidiadau hyn