Gweminar – Datblygu gweithlu chwarae gyfeillgar

Gweminar – Datblygu gweithlu chwarae gyfeillgar 25 Hydref 2022 (10:00am – 1:00pm) Ar-lein dros Zoom

Mae Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae, cyfarwyddyd statudol Llywodraeth Cymru ar asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol, yn cydnabod pwysigrwydd gweithlu sydd â’r sgiliau priodol, a hynny ar gyfer y rheini sy’n gweithio wyneb yn wyneb gyda phlant a’r rheini y mae eu gwaith yn effeithio ar ble bynnag y gallai plant chwarae.

Mae’r pandemig coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar drosglwyddiad cymwysterau a chyfleoedd datblygiad proffesiynol. Mae angen ail-ffocysu a chynllunio ymlaen ar gyfer cyfleoedd hyfforddi i’r dyfodol o ganlyniad i COVID-19.

Anelir y weminar hon at: hyfforddwyr a thiwtoriaid chwarae, swyddogion digonolrwydd chwarae, swyddogion digonolrwydd gofal plant a gweithwyr chwarae. Digwyddiad RHAD AC AM DDIM

Bydd y weminar yn cyflwyno cyfleoedd i:
• archwilio’r ystod o gymwysterau gwaith chwarae sydd ar gael yng Nghymru
• dysgu mwy am y llwybr cynnydd cymwysterau ar gyfer gweithwyr chwarae yng Nghymru
• archwilio a rhannu syniadau ymarferol ar gyfer datblygu a gweithredu cynlluniau datblygu’r gweithlu.

Mae hon yn weminar bartneriaeth, a drosglwyddir gan Chwarae Cymru gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a Chlybiau Plant Cymru Kids Clubs.

 

I archebu lle ewch i: http://www.chwaraecymru.org.uk/cym/digwyddiadau/812