Arolwg Cenedlaethol Clybiau Gofal Plant Allysgol 2023 

Er mwyn cynrychioli’r sector yn llawn i gydweithwyr polisi a phenderfynwyr, a’n galluogi i fodloni’ch anghenion yn well, mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn gofyn i bob Clwb Gofal Plant Allysgol ar hyd a lled Cymru i gwblhau ein Harolwg Clybiau Cenedlaethol. Gofynnwn ichi ein helpu ni i’ch helpu chi drwy ei gwblhau yma  

Wrth ymateb i’n harolwg fe anfonir eich enw ymlaen yn awtomatig i’ch cynnwys mewn lotri wobrau i gael un o 4 telesgop i’ch Clwb Allysgol, perffaith ar gyfer syllu ar nen y nos gyda’r plant dros fisoedd y gaeaf. (Dewisir yr enillwyr ar hap wedi i’r arolwg gau.)