Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs:  Grant Cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (£1000)  

Mae ariannu ar gyfer y cynllun grantiau uchod yn awr ar gael gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs drwy ariannu gan Lywodraeth Cymru o Ebrill 2023 hyd at Fawrth  2024. 

Bydd y grant yma’n cefnogi lleoliadau Cymraeg / dwyieithog gyda’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno cais am gofrestru ag AGC ac ennill cofrestriad; bydd hefyd yn cefnogi ehangu darpariaeth bresennol cylchoedd  i gynnig gofal plant allysgol i blant hyd at 12 mlwydd oed.   

Gofynnwn ichi drafod eich cais gyda’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant os gwelwch yn dda, a rhaid iddo ef/hi hefyd lofnodi’ch cais.


Grant Clwb Brecwast Kellogg’s 

Mae Rhaglen Grantiau Clwb Brecwast Kellogg’s wedi ail-agor ar gyfer ceisiadau. Mae’r rhaglen yn cynnig grantiau o hyd at £1,000 i ysgolion yn y DU i sefydlu clybiau brecwast ar gyfer y plant hynny sydd â’r angen mwyaf.

I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen:

  • Rhaid i’r clwb brecwast fod wedi’i leoli mewn ysgol yng Lloegr, Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
  • Mae nifer y grantiau sydd ar gael yn gyfyngedig o grantiau sydd ar gael felly rhoddir blaenoriaeth i ysgolion sydd naill ai â:

35% a throsoddd o blant sy’n gymwys ar gyfer cyllid premiwm disgyblion (ar gyfer Lloegr) ac sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru).

neu

Ysgolion sydd wedi’u lleoli mewn ardal sydd wedi’i dosbarthu ymhllith  y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ôl y Mynegai Amddifadedd Lluosog. Gall ysgolion ddarganfod a yw hyn yn berthnasol i’w hysgol nhw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau sydd i’w gweld yma.

  • Yn ogystal, os yw eich ysgol wedi derbyn cyllid clwb brecwast gan Gregg’s neu Magic Breakfast o fewn y flwyddyn academaidd gyfredol, ni fydd eich clwb yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth i dderbyn cymorth.
  • Dim ond un grant fesul ysgol ym mhob blwyddyn academaidd sydd ar gael.

Gall ysgolion wneud cais am wobr ar unrhyw ddyddiad a byddant yn clywed o fewn mis os ydynt wedi bod yn llwyddiannus.

Am unrhyw ymholiadau cysylltwch â Forever Manchester ar 0044 161 214 0940 neu e-bostiwch kelloggs@forevermanchester.com