Cyfleoedd i weithwyr proffesiynol helpu’r sector Gofal Plant, Chwarae a‘r Blynyddoedd Cynnar i wella eu harferion gwrth-hiliol.

Ydych chi’n weithiwr proffesiynol sydd â phrofiad bywyd o hiliaeth a chamwahaniaethu?  

Ydych chi am helpu’r sector Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru i wella eu harferion gwrth-hiliol?  

Mae DARPL yn awyddus I gael Mynegiannau o Ddiddordeb (erbyn Ionawr 9fed) i weithio gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i ddylunio a chyflenwi’r prif themâu a gweithdai gwrth-hiliol, gan roi cyngor ac arweiniad ar arferion gwrth-hiliol ym meysydd Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar. 


Mae Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL) yn awyddus i dderbyn Datganiadau o Ddiddordeb i weithio gyda’r brifysgol (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) ar nifer fach o ddyddiau dysgu proffesiynol.  Ar gyfer Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar DARPL rydym yn awyddus i weithio gyda gweithwyr proffesiynol i ddylunio a chyflenwi gweithdai cyweirnod a gwrth-hiliol a fydd yn darparu cyngor ac arweiniad ar arfer gwrth-hiliol rhagorol mewn lleoliad Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar.  Rydym yn awyddus i weithwyr proffesiynol sy’n gallu gwneud hynny, i gynnwys eu profiad proffesiynol o ran cynnwys a chyflenwi. 

Rydym yn croesawu gweithwyr proffesiynol â phrofiad byw o hiliaeth a gwahaniaethu.
Bydd y rhan fwyaf o’r ddarpariaeth yn cael ei darparu wyneb yn wyneb ond mae’n bosibl y bydd achlysuron pan fydd angen cyflenwi drwy MS Teams (neu gyfwerth).  Bwriad y cyflwyniad a’r gweithdai yw cefnogi a herio addysgwyr i ddatblygu eu gwaith beunyddiol, a gallai gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: 

  • Beth yw arfer gwrth-hiliol rhagorol mewn Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru. 
  • Arweinyddiaeth wrth-hiliol effeithiol mewn Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar. 
  • Rhai enghreifftiau ymarferol o ddarpariaeth ragweithiol Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar gwrth-hiliol. 
  • Dolenni defnyddiol i adnoddau / gweithgareddau / deunydd darllen pellach. 
  • Enghreifftiau o waith cydweithredol yng nghyd-destun profiad proffesiynol byw perthnasol. 

Gallwch weld mwy am waith DARPL yma: https://darpl.cymru/  

Manylion Cyflwyno Gofynnol: 

  • Crynodeb pwynt bwled yn manylu ar sut yr ydych chi / eich cwmni yn fwyaf addas ar gyfer gwneud y gwaith hwn (hyd at 300 gair). 
  • Gwybodaeth am eich profiad ac enghreifftiau o’ch profiad blaenorol (hyd at 300 gair) 
  • Cysyniadau / Dulliau y byddech yn eu cynnwys yn eich gwaith (hyd at 300 gair). 
  • Dyfynbris ffurfiol ar gyfer y gwaith. 

Ystyrir y Datganiadau o Ddiddordeb ar sail profiad, addasrwydd cyd-destunol, gwreiddioldeb a gwerth am arian.
Dyddiad dechrau: 15/01/2024 

Cwblhau’r gweithdai erbyn 18/07/2024
Dyddiad cau cyflwyno: 09/01/2024 

Hysbysir Datganiadau o Ddiddordeb llwyddiannus erbyn 12/01/2023 

Cliciwch yma ar y ddolen:  

https://cardiffmet.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_b7NHGfk8Cd6AEn4