Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael eich barn ar strwythur y flwyddyn ysgol

Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar newid y calendr ysgol fel bod seibiannau’n cael eu lledaenu’n fwy cyfartal. Ni fydd nifer y dyddiau o wyliau ysgol a diwrnodau addysgu yn newid.

Pa effaith, os o gwbl, a allai fod hefyd ar eich darpariaeth gofal plant all-ysgol y gweithlu a’r plant yn eich gofal?

Gallwch weld ac ymateb i’r dogfennau ymgynghori yma Strwythur y Flwyddyn Ysgol | LLYW.CYMRU.

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs hefyd yn ymateb. Os hoffech i ni adlewyrchu eich barn gyfunol yn ein hymateb, gofynnwn ichi ymateb i’n harolwg yma erbyn dydd Llun 29 Ionawr.


Dywed Llywodraeth Cymru fod ymchwil yn awgrymu bod tymor yr hydref yn flinedig ac yn heriol i ddysgwyr a staff. Hefyd, mae rhai disgyblion, yn enwedig o gefndiroedd difreintiedig yn ariannol a’r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn ei chael hi’n anodd dychwelyd i ddysgu ar ôl gwyliau hir yr haf.

Beth yw’r opsiynau o dan y cynnig?

Opsiwn 1

  • Y calendr ysgol presennol (Status Quo)

Opsiwn 2

  • Byddai wythnos yn cael ei chymryd o ddechrau gwyliau’r haf a’i hychwanegu at wyliau mis Hydref. Byddai seibiant o bythefnos yn dechrau ym mis Hydref 2025 a seibiant haf o bum wythnos yn 2026.
  • Hyblygrwydd i wahanu gwyliau’r gwanwyn oddi wrth wyliau’r Pasg (pe bai’r Pasg yn disgyn y tu allan i’r seibiant ysgol, byddai’r gwyliau cyhoeddus yn parhau i fod yn berthnasol a dylid ailddosbarthu’r amser dysgu – byddai hyn yn digwydd am 2 flynedd ym mhob cyfnod o 10 mlynedd).

Opsiwn 3:

  • Opsiwn 2 ynghyd â newidiadau ychwanegol i’w symud ymlaen yn y dyfodol, ond nid o 2025. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys yr opsiwn o symud ail wythnos o wyliau’r haf a’i ychwanegu at wyliau’r Sulgwyn a symud canlyniadau TGAU i’r un wythnos â diwrnod canlyniadau UG /Safon Uwch.
Pam newid y flwyddyn ysgol?

Er mwyn cefnogi’n well:

  • anghenion dysgwyr difreintiedig a’u teuluoedd
  • lles dysgwyr ac athrawon i leihau blinder
  • dysgu ac addysgu
  • patrymau modern o fyw a gweithio

Byddai’r tymhorau’n fwy cyfartal o ran hyd, gan alluogi cyfnodau adfer gwell i athrawon a dysgwyr. Mae seibiannau wedi’u hailddosbarthu yn helpu i reoli llwyth gwaith athrawon ac yn cefnogi dysgu, a gallant ddarparu cyfleoedd mwy fforddiadwy ar gyfer teithio a hamdden. Gellid lleihau colledion dysgu dros wyliau’r haf.

Darllenwch sylwadau pellach gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, yr Aelod Dynodedig a Parentkind yma.

Dyddiadau tymhorau arfaethedig ar gyfer blwyddyn ysgol 2025 i 2026

 

Cyfnod Dechrau Diwedd (At ddibenion y ddogfen hon, os daw tymor i ben ar ŵyl gyhoeddus, caiff ei chynnwys fel rhan o’r tymor.)

 

Tymor yr Hydref 2025

 

Dydd Llun 1 Medi Dydd Gwener 19 Rhagfyr
Hanner Tymor yr Hydref 2025

 

Dydd Llun 20 Hydref Dydd Gwener 31 Hydref
Tymor y Gwanwyn 2026

 

Dydd Llun 5 Ionawr Dydd Gwener 3 Ebrill
Hanner Tymor y Gwanwyn 2026

 

Dydd Llun 16 Chwefror Dydd Gwener 20 Chwefror
Tymor yr Haf

2026

Dydd Llun 20 Ebrill Dydd Mercher 29 Gorffennaf
Hanner Tymor yr Haf 2026

 

Dydd Llun 25 Mai Dydd Gwener 29 Mai