02.05.2024 |
Gwobrau Chwarae 2024
Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Plant a Phobl Ifanc Nawr eleni, sy’n cynnwys categori ar gyfer chwarae plant.
Bydd y Wobr Chwarae yn cael ei chyflwyno i’r fenter sydd wedi gwneud y mwyaf i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae’n rhydd, mwynhau plentyndod a chyfrannu at eu datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol. Bydd y beirniaid yn chwilio am waith sydd wedi galluogi plant i ddilyn eu syniadau a’u diddordeb eu hunain, yn eu ffordd eu hunain.
Mae categorïau eraill yn cynnwys:
- Hyrwyddwr Plant a Phobl Ifanc
- Gwobr Elusen Plant a Phobl Ifanc.
Mae’r Gwobrau yn cynnig cyfle i godi proffil prosiectau a mentrau i gyllidwyr a’r cyhoedd. Cyhoeddir enillwyr y gwobrau mewn cinio a seremoni yn Llundain ar 28 Tachwedd 2024.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 21 Mehefin 2024.