08.12.2023 |
Cofrestriad Proffesiynol y Gweithlu Gofal Plant a Chwarae
Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi lansio ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gofrestru proffesiynol y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae.
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn y rhai sy’n rheoli neu’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae ledled Cymru ar rai cwestiynau sylfaenol ynghylch a ddylai’r sector gofal plant a gwaith chwarae gael cofrestr gweithlu, ac os felly pwy ddylai gael ei gynnwys ar y gofrestr honno.
Anogir pawb sy’n gweithio yn y sector i rannu eu barn; ymunwch ag un o’n digwyddiadau ymgynghori drwy Zoom i ddysgu mwy: Chwefror 5ed 6:30yh bwciwch yma
Mae’r ymgynghoriad ar gofrestru’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae’n broffesiynol bellach yn fyw.
Mae Cwestiynau Cyffredin hefyd ar gael.