Yn Galw’r holl Leoliadau Gofal Plant yng Nghaerdydd!

Mae’r cwrs hwn ar y ddolen isod yn wych i unrhyw un sy’n gweithio mewn lleoliad Gofal Plant yng Nghaerdydd, sydd eisoes â Lefel 3 mewn gofal plant, gwaith ieuenctid, ysgol goedwig neu gymorth addysgu.

Mae’n adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol ac yn eich helpu i ddeall egwyddorion, damcaniaethau a dulliau gwaith chwarae.

Ar-lein – 9 sesiwn – Nos Lun 18:30-20:30 yn dechrau 15/01/24.

Meini Prawf Cymhwystra – Rhaid darparu tystiolaeth o ardystiad Lefel 3 mewn Gofal Plant. Rhaid bod yn gweithio mewn lleoliad gofal plant yng Nghaerdydd

Cwrs Dyfarniad Lefel 3 mewn  Pontio i Waith Chwarae – 15/01/2024 – 18/03/24 – Clybiau Plant Cymru (CY)