20.01.2023 |
Diweddariad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn atgoffa rhieni yng Nghymru i gadw plant i ffwrdd o leoliadau ysgol a gofal plant os ydynt sâl ac â thwymyn arnynt, hyn yn dilyn cynnydd mewn afiechydon fel ffliw.
Mae datganiad y wasg llawn Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn cynghori y dylai plant sydd yn sâl ac â thwymyn (gwres uchel) aros gartref nes byddant yn teimlo’n well, a bod y dwymyn drosodd.
Efallai yr hoffai lleoliadau basio’r cyngor hwn ymlaen i rieni/gofalwyr.
Hefyd, mae padlet ICC, sy’n cynnwys adnoddau cysylltiedig, wedi ei ddiweddaru â chyngor ar beth i’w wneud os oes gan blentyn wres uchel.
Mae gan wefan ICC fwy o wybodaeth ar afiechydon y gaeaf.
Bydd AGC yn cynghori pob lleoliad cofrestredig o’r diweddariad hwn.