11.11.2022 |
Wythnos Diogelwch-ar-y-ffyrdd o’r 14eg i’r 20fed o Dachwedd 2022
Wythnos Diogelwch-ar-y-Ffyrdd yw ymgyrch diogelwch-ar-y-ffyrdd fwyaf Brake. Bob blwyddyn mae miloedd o sefydliadau a chymunedau’n cymryd rhan er mwyn rhannu negeseuon pwysig am ddiogelwch-ar-y-ffyrdd.
Mae gan Brake cyngor ac adnoddau am ddim, gan gynnwys:
- ffeithlen ‘diogel o gwmpas ffyrdd’ sydd hefyd ar gael mewn 7 iaith arall
- dalennau gweithgaredd y gellir eu hargraffu i blant
- cynllun sesiwn ar ddiogelwch ar y ffyrdd, a all eich helpu i gynnal gweithdy a fyddai’n ennyn diddordeb, neu’n rhoi cyngor hanfodol i’r teuluoedd yr ydych yn gweithio â nhw
Ewch i wefan Brake i weld mwy o wybodaeth ynghyd â syniadau a gweithgareddau i’ch helpu i gymryd rhan yn Wythnos Diogelwch-ar-y-Ffyrdd.