Bydd y DHG – y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth – yn fyw ar 31 Ionawr 2024

Mae’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (DHG/SASS) yn ffurflen ar-lein y mae’n ofynnol i Bersonau Cofrestredig ac Unigolyn Cyfrifol ei chwblhau o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 mewn perthynas â monitro cydymffurfiaeth â gwasanaeth.

Mae’n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae i gwblhau’r DHG.

Bydd y DHG yn fyw ar 31 Ionawr 2024.

Os nad ydych wedi creu cyfrif AGC ar-lein eto, mae angen i chi weithredu ar frys.

Os oes gennych gyfrif AGC Ar-lein yn barod, gwiriwch fod eich holl fanylion yn gyfredol ac yn gywir gan y bydd hyn yn gwneud cwblhau eich DHG yn gyflymach ac yn haws.