15.12.2023 |
Gofal Cymdeithasol Cymru – Cerdyn Gweithiwr Gofal
Gweithwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar
Oeddech chi’n gwybod y gall gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru gofrestru i gael y ‘Cerdyn gweithiwr gofal’? Mae’r cerdyn yn rhoi mynediad i chi at fuddion, o Ostyngiadau i Ofalwyr, gan gynnwys gostyngiadau gan amrywiaeth o frandiau proffil uchel a’r opsiwn i wneud cais am gerdyn arian-yn-ôl.
Os ydych yn gweithio ym maes gofal plant, chwarae neu flynyddoedd cynnar, gallwch gofrestru ar gyfer y cerdyn os ydych yn:
- gweithio mewn lleoliad gofal plant neu waith chwarae sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
- fel arfer yn gweithio mewn lleoliad gofal plant neu waith chwarae sydd wedi’i gofrestru gydag AGC, ond bellach yn gweithio mewn canolfan awdurdod lleol
- gweithio fel gweithiwr Dechrau’n Deg neu gydag unrhyw wasanaeth ymyrraeth-gynnar arall awdurdod lleol, elusen neu sefydliad trydydd sector lle mae gofyn ichi deithio y tu hwnt i’ch cartref.
*Nid yw hyn yn cynnwys gweithwyr ieuenctid.