15.12.2023 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Heuldro’r Gaeaf – Rhagfyr 22ain
Mae hwn yn nodi dechrau’r gaeaf. Mae hemisffer y gogledd yn cyrraedd ei ogwydd mwyaf i ffwrdd o’r haul, sy’n creu y nifer leiaf o oriau golau-dydd.
Diwrnod Byd-eang Braille – Ionawr 4ydd
Mae’r diwrnod hwn yn tynnu sylw at arwyddocâd hollbwysig Braille fel sianel cyfathrebu i bobl â golwg rhannol a phobl ddall. Beth am gynnwys Braille yn eich lleoliad chi yr wythnos honno?