02.05.2024 |
Arolwg – Incwm a gwariant darparwr gofal plant a chwarae
Mae Llywodraeth Cymru am ddeall mwy am incwm a chostau rhedeg busnes gofal plant.
Bydd hyn yn help iddynt wrth adolygu’r penderfyniadau ar gymorth a wneir ganddynt, megis y cyfraddau yn ôl yr awr y maent yn ei dalu am raglenni a ariennir (e.e. Y Cynnig Gofal Plant) a mathau eraill o gefnogaeth a gynigir i ddarparwyr.
Gofynnir ichi gwblhau’r arolwg yma. Os hoffech help i gwblhau’r arolwg, gallwn ni eich helpu. Cysylltwch â ni.