Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Wrth ymgeisio am unrhyw gyllid neu grant, ystyriwch y pum pwynt canlynol:

  1. Darllenwch drwy amodau’r cyllido neu grant, ydych chi’n bodloni telerau ac amodau’r grant?
  2. Ystyriwch ffonio’r ariannwr i ofyn cwestiynau neu siarad trwy’r prosiect, edrychwch ar bwy neu beth y maent wedi ei ariannu’n
  3. Bod nodau’r prosiect yn glir a’u bod yn bodloni amcanion y grant neu’r cyllido
  4. Eich bod yn rhoi’r holl wybodaeth y gofynnir amdani gan y cyllidwr; dyfynbrisiau, cyfrifon, adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth, yswiriant a.y.b.
  5. Eich bod yn rhoi amser o’r neilltu i gwblhau’r cais ac ymgysylltu ag eraill yn y broses.

Bydd Rhaglen Grantiau Bychain 2023-24 The Leathersellers yn ystyried ceisiadau gan elusennau a Sefydliadau Corfforedig Elusennol (SCE) sydd wedi’u cofrestru ac sy‘n weithredol yn y DU. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau gan Gwmnïau Budd Cymunedol.

I wneud cais, rhaid i elusennau a SCEau fodloni’r  meini prawf canlynol:

  • Eu bod yn weithredol mewn ardal ddaearyddol o amddifadedd yn y DU. Rydym oll yn pob mesur cymharol o amddifadedd fel y cofnodir gan y Mynegai Amddifadedd neu becynnau cymorth eraill. Rydym yn cael yr erfyn map a ddarperir gan CDRC o gymorth mawr.
  • Yn cyflenwi gweithgareddau i fodloni angen a nodwyd ymysg aelodau hyglwyf o’r gymuned
  • Â gwariant o lai na £200,000 wedi ei gynllunio yn 2023/24.

I wybod mwy


Cyfleoedd am Gyllido yng Ngwynedd

Mae Cronfa Cefnogi Cymunedau Gwynedd nawr AR AGOR!

Cysylltwch gyda Chyngor Gwynedd yn uniongyrchol am unrhyw ymholiad ynghylch y gronfa hon : Cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru