31.05.2024 |
Arolwg y Cynnig Gofal Plant i Gymru
A ydych wedi cofrestru ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru neu’n derbyn unrhyw fath arall o gyllid gan Lywodraeth Cymru?
Mae Llywodraeth Cymru eisiau deall mwy am y costau sy’n gysylltiedig â rhedeg eich busnes i’w helpu i lywio penderfyniadau a wnânt am y cyfraddau y maent yn eu talu i chi am raglenni a ariennir.
Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau am yr arian yr ydych yn ei wario ar bethau fel staff, rhent, biliau ac ati a’ch incwm (gan gynnwys o ffioedd a rhaglenni a ariennir fel Cynnig Gofal Plant Cymru). Gall cael y dogfennau perthnasol wrth law helpu, er enghraifft, eich cyfrifon blynyddol diweddaraf neu gyfriflen banc.