15.01.2024 |
Pleidleisiwch yma parthed y wobr Clwb All-Ysgol y flwyddyn 2024
Clwb Gofal Plant All-Ysgol y Flwyddyn: Lleoliad sy’n ymgorffori’r Egwyddorion Gwaith Chwarae, ac mae hynny’n enghraifft ragorol o fudd chwarae a gofal o ansawdd i blant, teuluoedd a chymunedau.
Isod y mae enwebiadau ar gyfer y Clybiau All-Ysgol, sydd ar rhestr fer, ac a wnaed yn ddi-enw.
Gofynnwn ichi ddarllen y disgrifiadau isof os gwelwch yn dda a bwrw’ch pleidlais yma dros yr enillydd.
Mae gan Glwb 1 adnoddau awyr-agored ardderchog, llawer ohonynt yn rhannau rhydd. Mae’r plant yn dewis eu gweithgareddau ac yn cefnogi ei gilydd gyda’r staff gan ddefnyddio’r model ‘cynllunio yn y foment’. Mae yna ieir hyfryd yn eu hardal tu allan ac mae’r plant wrth eu bodd yn casglu’r wyau. Mae yna ardal pwll tân a llawer o foncyffion. Yn eu Harolygiad AGC diweddar rhoddwyd 4 marc ‘Rhagorol’ iddynt ac un o’r sylwadau gan yr Arolygydd oedd: “Mae’r plant yn ddysgwyr brwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn cael eu hysgogi gan eu hamgylchedd dysgu. Hyrwyddir datblygiad cyffredinol y plant trwy brofiadau sy’n briodol i’w hoedran a’u datblygiad.”
Mae’r holl staff yn hynod gymwynasgar, hawdd mynd atynt ac yn gyflym i weithredu pan fo angen. Mae’r holl staff yn wych gyda’r plant ac maent bob amser yn ei wneud yn hwyl, maent yn mynd gam ymhellach ac yn hynod o feithringar.
Mae’r gwasanaeth a ddarperir yn rhagorol, o’r staff i’r lleoliad, a gwerth am arian o gymharu â mannau lleol eraill. Mae’r system archebu ar-lein yn hawdd i’w defnyddio.
Mae Clwb 2 yn darparu gofal o ansawdd gwych a gweithgareddau hwyliog. Mae ganddyn nhw naws deuluol hyfryd ac mae llawer o blant (fel fy un i) wedi treulio blynyddoedd gyda’u gwasanaethau. Mae’r gyfradd trosiant staff yn isel iawn, sy’n golygu bod gennym staff yr ydym wedi eu hadnabod ers blynyddoedd ac sydd â pherthynas gref â’r plant. Maent yn darparu gwasanaeth hanfodol yn ein cymuned, ac maent yn haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud.
Mae’r plant wrth eu bodd yn mynd i’r clwb gwyliau gan fod llawer o deithiau a gweithgareddau cyffrous bob amser. ‘Dan ni’n arbennig o hoff o’r partïon!
Mae Clwb 2 wedi gwneud gwaith gwych yn magu hyder fy machgen bach a’i helpu i ymgysylltu ag eraill. Mae hefyd yn dysgu Cymraeg ac iaith arwyddion, mae’n unigolyn blaengar a chlyfar iawn diolch i gefnogaeth y Gweithwyr Chwarae.
Mae Clwb 3 yn darparu gofal gwych i’m bechgyn, un sydd ag ADY. Maen nhw’n trin pob plentyn yr un peth ac yn anhygoel. Mae’r plant mor hoff o’r staff ac maen nhw’n cael yr amser gorau.
Mae fy mab wedi dechrau yng Nghlwb 3 yn ddiweddar ac wedi ymgartrefu mor dda. Mae’r merched yno bob amser yn barod gyda chwtsh iddo ac maen nhw bob amser yn gwneud yn siŵr ei fod yn hapus ac yn ddiogel.
Mae Clwb 3 yn annog y plant i ddysgu Cymraeg trwy chwarae. Rwy’n teimlo’n gwbl hapus bod fy mhlentyn yn ddiogel yn nwylo’r clwb all-ysgol pan fyddaf yn y gwaith.
Bwriwch eich pleidlais yma.