Pleidleisiwch yma parthed y wobr Dysgwr y Flwyddyn 2024

Dysgwr y Flwyddyn: Dysgwr sydd wedi gweithio’n galed i gyflawni neu symud tuag at gymhwyster gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. Efallai y byddai hyn wedi golygu cefnogi cymheiriaid, cymryd rhan dda mewn sesiynau, gwneud y gorau o’r profiad dysgu, neu goresgyn heriau ag angerdd a phenderfynaid.

Isid y mae’r enwebiadau, a wnaed yn ddienw, ar gyfer y Dysgwyr sydd ar y rhestr fer.

Darllenwch y disgrifiadau iso dos gwelwch yn dda a bwriwch eich pleidlais yma dros yr enillydd.

Roedd Dysgwr 1 yn bleser i’w chael yn fy sesiynau. Roedd hi bob amser yn barod i gymryd rhan a byddai’n cyfrannu pryd bynnag y gofynnwyd iddi. Mae ganddi angerdd naturiol dros Waith Chwarae ac mae wedi gweithio’n galed i sicrhau bod gan bob aelod o’i thîm ryw fath o gymhwyster mewn Gwaith Chwarae. Rhoddodd gyfle iddynt fynychu hyfforddiant ac roedd bob amser wrth law i’w hannog a rhoi cymorth iddynt gwblhau eu cymhwyster.

Mae Dysgwr 2 bob amser yn mynd gam ymhellach yn achos pob un o’i staff, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r offer i gyflawni eu rôl fel gweithwyr chwarae. Cwblhaodd ei ATPW a symud ymlaen i Lefel 5. Mae Dysgwr 2 wedi cofleidio Lefel 5 ac wedi dod yn wirioneddol angerddol dros chwarae a Gwaith Chwarae. Y mae wedi mabwysiadu’r holl sgiliau a ddysgodd  o’r cyrsiau ar-lein ac o gwblhau pob aseiniad, ac mae hyn yn amlwg yn ei lleoliad. Mae hi bellach yn cefnogi ei staff i fod yn hyderus, ac yn  darparu cyfleoedd chwarae sy’n cynnwys risg ar gyfer y plant.

Mae cyflogwr Dysgwr 3 wedi dweud sut mae hi wedi datblygu’r clwb ers cwblhau’r cwrs Lefel 5. Rwyf wedi gweld sut mae ei hyder a’i gwybodaeth wedi cynyddu a sut mae’n creu man chwarae anhygoel gyda’r plant i chwarae. Mae ei hangerdd dros chwarae’n yn dangos yn y cyfleoedd chwarae y mae’n eu darparu. Roedd yr adborth yr oeddem yn ei gael gan y plant yn dangos sut mae hi wedi meithrin perthynas â nhw a pha mor hwyliog y mae hi bob amser yn y clwb. Mae hi bob amser yn ymdrechu i wella ac mae bob amser yn cynnwys y plant ym mhenderfyniadau’r clwb. Ym mhob peth, Gweithiwr Chwarae a Rheolwr anhygoel!!

Mae Dysgwr 4 wedi cymryd perchnogaeth lwyr dros ei dysgu ac mae ar y blaen o ran ei chyflawniad. Mae’r gwaith y mae hi wedi’i gyflwyno hefyd o safon eithriadol o uchel ac yn dangos gwybodaeth ardderchog am chwarae, Gwaith Chwarae a’r sector. Mae ymchwil annibynnol yn glir drwy gydol ei gwaith ac mae hefyd wedi cysylltu â’i hymarfer gwaith chwarae ei hun, wedi adfyfyrio ar sefyllfaoedd ac wedi cysylltu â’i gwaith i ddangos eto’n glir ei dealltwriaeth. Gwych gweld dysgwr mor angerddol, cydwybodol a llawn cymhelliant yn ymgysylltu â’r cymhwyster.

Bwriwch eich pleidlais yma.