Eich Busnes Gofal Plant – sicrhau bod gennych y dull llywodraethu mwyaf addas

Mae llywodraethu yn cyfeirio at strwythur a phrosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau gan sicrhau bod gennych atebolrwydd a rheolaeth lawn ac ymddygiad da o fewn eich sefydliad. Hefyd eich bod â  system a phroses, sy’n gydnaws ag ymgorffori cynllunio strategol. Eich eich bod yn cyfyngu ar risg ac yn sicrhau bod gennych brosesau rheoli perfformiad ar waith. Mae hefyd yn sicrhau bod y sefydliad mewn sefyllfa dda i ymateb i amgylchedd allanol newidiol.

Rydym am helpu i ddatblygu a chefnogi sefydliadau corfforedig sydd â llywodraethu cryf sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gan ddarparu chwarae a gofal cynaliadwy ac o safon i blant, teuluoedd a chymunedau.

Mae rheoli a llywodraethu lleoliadau’n dda, ynghyd â chymwysterau Gwaith Chwarae a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer Gweithwyr Chwarae, yn hanfodol i roi’r profiad gorau i’r palnt a blaenoriaethu Chwarae a ddewisir yn rhydd yn eich lleoliad.

Os ydych chi’n teimlo bod arnoch angenn cymorth i ddeall Llywodraethiad yn eich Busnes Gofal Plant, cofiwch gysylltu â’n tîm Cefnogi Busnesau Gofal Plant ymroddedig ar hyd a lled Cymru. Trwy’r cyllido a gawsom drwy ‘Cymunedau Gofal-Plant Cysylltiedig’ y Loteri Genedlaethol, yn ostystal â’n Prosiect Cymell, mae gennym staff sy’n siaradwyr Cymraeg a Saesneg a all eich helpu ym mhob elfen o’ch busnes yn ogystal âg i ddeall y jargon sydd yngŷn ag ambell elfen o’r byd busnes.

Swyddfa Caerdydd: 029 2074 1000 / info@clybiauplantcymru.org

Swyddfa Bae Colwyn: 01492 536318 / info-nw@clybiauplantcymru.org

Swyddfa Cross Hands:  01269 831010 / info-ww@clybiauplantcymru.org