Digwyddiadau i Ddarparwyr Llywodraeth Cymru: Adolygiad o’r Gorchymyn Eithriadau (Clybiau Gofal Plant All-Ysgol nad ydynt wedi cofrestru ag AGC)

£0.00

Dydd Iau 16eg Mai Ar-lein 18:30-20:00

Nifer:

Disgrifiad

Dydd Iau 16eg Mai Ar-lein 18:30-20:00

Clybiau Gofal Plant All-Ysgol, dyma’ch cyfle i fynegi eich barn er mwyn helpu i lywio’r adolygiad ac unrhyw newidiadau posibl i’r Gorchymyn Eithriadau (amgylchiadau lle nad oes angen i leoliadau gofrestru ag AGC na chydymffurfio â’r Rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol).

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno clywed barn lleoliadau gofal plant anghofrestredig yn arbennig, er mwyn deall sut mae’r Gorchymyn Eithriadau yn gweithio’n ymarferol ac a yw’n glir. Anogir darparwyr i siarad yn agored, croesewir eu barn a’u safbwyntiau.

(Nodwch eich dewis o iaith yn y bocs gwybodaeth ychwanegol.)