24/07/2025 |
Gweinyddydd Hyfforddiant – Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Dyddiad cau: 15/08/2025
- 16 awr yr wythnos
- £23,500 pro rata, yn codi i £24,790 ar dderbyn cadarnhad mewn swydd
- Wedi’i leoli o’r swyddfa Caerdydd, Bae Colwyn neu Cross Hands, ond â chytundeb gweithio ystwyth yn ei le.
Prif bwrpas: Cefnogi effeithlonrwydd y Swyddfeydd Cenedlaethol a Rhanbarthol a’r Tim Hyfforddi, sicrhau gweinyddiad effeithlon y mhob agwedd ar y tîm, a chefnogi monitro effeithlon o’r holl ddysgwyr.
Sgiliau a Phrofiad Craidd
- Profiad o weinyddu neu gymhwyster perthnasol.
- Profiad o fewnbynnu a dadansoddi data.
- Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol rhagorol – wrth ddefnyddio rhaglenni Microsoft fel MS Word, Access, Excel ac Outlook, MS SharePoint a Teams a Zoom.