Haf o Hwyl Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs!

Yn ystod Haf 2022 llwyddodd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i dderbyn ariannu drwy Haf o Hwyl i gynnal 3 digwyddiad ar draws Cymru yr haf yma; lle gwnaethom:

  • Hyrwyddo pwysigrwydd chwarae i blant
  • Hyrwyddo’r Sector Gofal Plant Allysgol ac yn annog teuluoedd i chwilio am glybiau lleol a’u defnyddio
  • Arddangos y mathau o weithgareddau hwyliog sydd ar gael fel arfer mewn Clybiau Gofal Plant Allysgol, megis rhai’n defnyddio rhannau rhydd, chwarae’n seiliedig ar yr elfennau naturiol, a gwahanol fathau o chwarae.
  • Annog mwy o oedolion i ystyried gwaith chwarae yn opsiwn gyrfa drwy arsylwi ar weithwyr chwarae ar y diwrnod.
  • Cynnal 2 sesiwn ym mhob digwyddiad, a thua 125 o blant a’u teuluoedd mewn sesiwn unigol.


Cafodd y staff, y gwirfoddolwyr a’r mynychwyr lond gwlad o hwyl, a gobeithiwn gynnal mwy o ddigwyddiadau’n hyrwyddo gwaith chwarae a’r sector Gofal Plant Allysgol yn y dyfodol!

Our partners

Project’s partners