NEWYDD Canllawiau “Argyfwng Costau Byw” ar wefan Cymru Iach ar Waith

Mae Cymru Iach ar Waith wedi lansio canllawiau newydd i gyflogwyr ar yr “Argyfwng Costau Byw”.

Mae’r adran newydd ar y wefan yn darparu cyngor i gyflogwyr ar sut y gallant gefnogi iechyd a llesiant eu staff yn ystod yr argyfwng economaidd presennol. Mae hefyd yn cynnwys dolenni at wasanaethau ac adnoddau llesiant ariannol defnyddiol, gan gynnwys podlediad arbenigol Cymru Iach ar Waith gyda’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau.

Gellir dod o hyd i’r canllawiau “Argyfwng Costau Byw” newydd yma.