21.10.2022 |
Dathlwch Diwali
Mae Diwali, a elwir hefyd yn Ŵyl y Goleuni, yn brif ŵyl yn y crefyddau Hindŵaeth, Jainistiaeth a Siciaeth. Eleni bydd yn dechrau ar Hydref 24, 2022 ac yn para am 5 diwrnod. Mae’r dathlu, yn gyffredinol, yn symbol o ddechreuadau newydd a buddugoliaeth y golau dros y tywyllwch.
Modd y dathlu fel arfer fydd pobl yn addurno eu cartrefi, yn prynu rhoddion, yn cael gwleddoedd, tân gwyllt a goleuo peth wmbredd o oleuadau a lampau ole war y strydoedd ac yng nghartrefi pobl.
Mae’n bwysig bod plant yn gwybod am wahanol wyliau. I fod yn rhan o hyn:
- Darllenwch stori am Diwali gyda’ch gilydd.
- Gwhoddwch rywun o’r gymuned sy’n dathlu Diwali i sôn am eu gŵyl.
- Gwnewch does playdough persawrus i gardamom drwy falu ac ychwanegu hadau cardamom.
- Gwnewch lusernau papur neu o boteli llaeth.
- Gwnewch ddiyas o does halen
- Coginiwch gyda’ch gilydd
- Rhannwch felysion neu ffrwyth wedi’u sychu, neu dowch o hyd i rysáit melys ar gyfer Diwali.